Eleanor Marks
 Cyfarwyddwr Ofcom
 Pwynt Caspian
 2 Ffordd Caspian
 Caerdydd 
 CF10 4DQ
15 Chwefror 2019

 

 

Annwyl Eleanor,

Ymgynghoriad: Dyfarnu bandiau sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz

Ysgrifennaf ynghylch fy llythyr blaenorol dyddiedig 24 Hydref 2018 a'ch ymateb dyddiedig 12 Rhagfyr 2018 (mae'r ddau ynghlwm) ac ymgynghoriad cyfredol Ofcom ar ddyfarnu bandiau sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz.

Nodaf o'r ymgynghoriad cyfredol fod y cynnig diwygiedig ar gyfer rhwymedigaeth o ran darpariaeth ddaearyddol Cymru yn parhau i fod yn 83 y cant, fel yr oedd yng nghynnig mis Mawrth. Mewn ymateb i alwadau i gynyddu'r rhwymedigaethau darpariaeth hyn yng Nghymru a'r Alban, mae Ofcom yn nodi yn y ddogfen ymgynghori bresennol: "Such an approach would significantly raise the overall cost of the coverage obligations to operators, increasing the risk that the coverage obligations go unsold".

Fodd bynnag, yn dilyn ein gwaith yn yr maes hwn, mae Pwyllgor o'r farn o hyd nad yw'r cynigion presennol ar gyfer rhwymedigaeth darpariaeth ddaearyddol Cymru yn ddigon uchelgeisiol. Mae mantol y dystiolaeth a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori - sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Ofcom, yr NFU a Chymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA) - yn cefnogi rhwymedigaeth darpariaeth uwch. Yn ôl y CLA, mae'r targedau gwreiddiol ar gyfer Cymru (a'r Alban) yn “insufficient and would reinforce and entrench economic divide between the nations”. Dylid nodi bod gan EE ddarpariaeth ddaearyddol o 83 y cant eisoes ar gyfer gwasanaethau 4G yng Nghymru, sy'n dangos cyn lleied o her yw'r targed arfaethedig o 83 y cant yn y cynigion presennol.

Mae'r cynnig i Gymru yn golygu cynnydd a fyddai’n llai na'r hyn a gynigir yn yr Alban (7 pwynt canran o'i gymharu â 12), a byddai Cymru ar ei hôl hi o hyd o ran darpariaeth ddaearyddol o'i chymharu â Gogledd Iwerddon a Lloegr. Rydym yn galw ar i Ofcom gynyddu'r rhwymedigaeth ddaearyddol ar gyfer Cymru a sicrhau darpariaeth decach ledled y DU.

Hoffai'r Pwyllgor hefyd wybod beth yw amcangyfrifon Ofcom ar gyfer a) faint o adeiladau ychwanegol a fyddai'n gallu derbyn gwasanaethau 4G yng Nghymru, a b) faint o orsafoedd ychwanegol a fyddai'n cael eu hadeiladu yng Nghymru o dan ei gynigion cyfredol.

Yn gywir,

 

 

 

Russell George
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau